Call & Ask
Efallai eich bod yn gofyn am storio dros dro tra eich bod yn disgwyl i drefniadau prynu eich cartef gael eu cwblhau? Gydag unedau ar gael i’w llogi am cyn lleied ag un wythnos, byddwn yn gwneud storio eich eiddo yn hawdd gyda chyngor cyfeillgar a phroffesiynol.
Gall addurno neu adnewyddu eich cartref neu eiddo fod yn waith anniben ac aflonyddgar felly pam na wnewch chi sicrhau fod un peth yn llai gyda chi boeni amdano trwy osgoi difrod i’ch eiddo. Gallwch ofyn am uned fwy neu lai ar unrhyw adeg yn ystod eich prosiect sydd felly yn rhoi hyblygrwydd llawn i chi.
P'un ai ydych yn mynd ar flwyddyn i ffwrdd neu'n bwriadu ymfudo, mae’n bosib y bydd angen storio eich eiddo am rai misoedd neu o bosib flynyddoedd. Rydym yn cynnig amrywiaeth o becynnau disgownt tymor hir i gyd-fynd â'ch cyllideb.
Rydym wedi ein lleoli yn agos at Goleg Llandrillo yn Llandrillo yn Rhos a gallwn gynnig yr opsiwn gorau i chi er mwyn storio eich eiddo dros wyliau’r haf.
Mae Gogledd Cymru yn gyrchfan gwyliau poblogaidd i berchnogion carafan, ac i berchnogion cychod ac offer chwaraeon dŵr yn ogystal. Gallwn gynnig gwasanaeth storio sych a diogel i eitemau sydd yn llawer rhy llafurus i’w cludo gyda chi bob tro fyddwch chi’n ymweld.